Cwestiynau cyffredin
Cwestiynau cyffredinol
C. Ydy hwn go iawn am ddim?
A. Ydy, mae’r holl gyrsiau yn gyfan gwbl am ddim. Gallwch gymryd cymaint o gyrsiau ag y mynnwch, a gofyn am gymaint o help ag y mae ei angen arnoch gan eich tiwtoriaid, heb orfod talu.
Cyrsiau
C. Oes unrhyw un o’r cyrsiau a gynigir yma yn arwain at gymhwyster?
A. Oes, mae’r holl gyrsiau wedi’u hysgrifennu i’ch cefnogi i ennill un o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru. Siaradwch â’r tiwtor i gael manylion.
C. Oes rhaid i fi weithio gyda thiwtor, neu a gaf i fwrw ati ar fy mhen fy hun?
A. Ar gyfer rhai o’r cyrsiau, caiff tiwtor ei ddynodi i chi, ond does dim rhaid i chi ofyn am help ganddyn nhw, neu siarad â nhw hyd yn oed, os nad ydych am wneud! Mae croeso i chi fwrw ati ar eich pen eich hun. Bydd y tiwtor yna i chi bob amser os oes angen i chi ofyn am help gan rywun.
Gofynion system lleiaf
Cyflymder cysylltiad
- Argymhellir cysylltiad band eang
OS / Porwr (isafswm)
- Windows Vista SP2
- IE9
- Firefox – fersiwn ddiweddaraf
- Google Chrome – fersiwn ddiweddaraf
- Mac OS X v10.7 “Lion”
- Safari 6.1.x
- Android 4.2
- Google Chrome
- iOS 7
- Safari
Cydraniad sgrin
- 1024 x 768 neu uwch ar liniadur neu PC
- Lleiafswm o 800px o led ar ddyfais symudol
Gofynion eraill – nodwch fod rhai gweithgareddau’n ddibynnol ar ‘plugins’ yn eich porwr we i weithredu ac nad ydynt ar gael ar bob dyfais.
- Adobe Acrobat Reader 10
- Adobe Flash Player – fersiwn ddiweddaraf
- JavaScript wedi’i alluogi
- Lefel rhwystro naidlenni – isel
- Cerdyn sain, yn ogystal â seinyddion neu glustffonau